Diogelu plant
Mae gan bob plentyn hawl i gael ei amddiffyn, ni waeth beth fo’i hil, ethnigrwydd, crefydd, cefndir economaidd-gymdeithasol. Pan fo’n ymddangos bod gwrthdaro buddiannau rhwng amddiffyn y plentyn ac amddiffyn y gymuned/sefydliad crefyddol, rhaid i amddiffyn y plentyn ddod gyntaf.
Mae plentyn yn cael ei gam-drin pan fydd rhywun yn ei niweidio neu’n methu gweithredu i atal niwed.
Gallai plant fod mewn perygl o gael eu cam-drin mewn lleoliad teuluol, sefydliad neu gymuned gan y rhai maent yn eu hadnabod neu, yn fwy anaml, gan ddieithryn. Gall plentyn neu berson ifanc hyd at 18 oed gael ei gam-drin neu’i esgeuluso a gall fod angen ei amddiffyn drwy gynllun amddiffyn plant rhyngasiantaethol.
Beth yw Cam-drin?
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb dros ddiogelu plant a phobl ifanc. Mae diogelu yn ymwneud â sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag niwed ac yn gallu tyfu i fyny’n ddiogel.
Mae diogelu yn golygu atal a diogelu plant a phobl ifanc sydd mewn perygl rhag camdriniaeth neu esgeulustod ac addysgu’r rhai o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r peryglon. Gall cam-drin plant ac esgeulustod achosi niwed sylweddol i blentyn ac effeithiau tymor hir i fod yn oedolyn.
Caiff plentyn ei gam-drin neu ei esgeuluso pan fydd rhywun yn achosi niwed neu’n methu â gweithredu i atal niwed. Gall cam-drin ddigwydd mewn unrhyw leoliad. Efallai y bydd person yn profi mwy nag un math o gamdriniaeth.
Gall cam-drin plant gymryd y ffurfiau canlynol:
Cam-drin corfforol
Gall cam-drin corfforol gynnwys taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi, sgaldio, boddi fygu neu rywbeth arall sy’n achosi niwed corfforol i blentyn. Gall niwed corfforol gael ei achosi hefyd pan fydd rhiant neu ofalwr yn ffugio neu achosi salwch plentyn y mae’n gofalu amdano.
Cam-drin emosiynol
Cam-drin emosiynol yw trin plentyn yn wael yn emosiynol yn gyson, nes achosi effeithiau negyddol difrifol a pharhaus ar ddatblygiad emosiynol y plentyn.
Gall hyn gynnwys argyhoeddi’r plentyn ei fod yn ddiwerth neu nad oes unrhyw un yn ei garu, ei fod yn annigonol, neu ei fod yn cael ei werthfawrogi dim ond i’r graddau ei fod yn diwallu anghenion person arall.
Gall gynnwys gosod disgwyliadau ar blant, sy’n amhriodol i’w hoedran neu eu datblygiad. Gall gynnwys codi ofn ar blant yn aml neu wneud iddyn nhw deimlo mewn perygl, er enghraifft drwy fod yn dyst i gam-drin domestig yn y cartref neu gael eu bwlio, neu drwy gamfanteisio neu lygru plant.
Mae rhyw lefel o gam-drin emosiynol yn rhan o bob math o achosion o gam-drin plant, er y gall ddigwydd ar ei ben ei hun hefyd.
Cam-drin rhywiol
Mae cam-drin rhywiol yn golygu gorfodi neu ddenu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, p’un a yw’r plentyn yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd neu beidio. Gall y gweithgareddau gynnwys cyswllt corfforol, gan gynnwys gweithredoedd treiddiol neu anhreiddiol. Gallant gynnwys gweithgareddau di-gyswllt, fel plant yn gwylio, neu’n cymryd rhan mewn cynhyrchu deunyddiau pornograffig neu wylio gweithgareddau rhywiol, neu annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol.
Cam-drin ariannol
Cam-drin ariannol yw unrhyw ladrata neu gamddefnyddio arian, eiddo neu adnoddau person gan berson mewn sefyllfa o ymddiriedaeth. Bydd y categori hwn yn llai cyffredin i blentyn, ond gallai’r dangosyddion fod:
- peidio â diwallu eu hanghenion am ofal a chymorth a ddarperir drwy daliadau uniongyrchol; neu
- cwynion bod eiddo personol ar goll
Esgeulustod
Esgeulustod yw methiant parhaus i ddiwallu anghenion sylfaenol plentyn yn gorfforol a/neu’n seicolegol, sy’n debygol o achosi nam difrifol ar iechyd a datblygiad y plentyn.
Gall hyn gynnwys rhiant neu ofalwr yn peidio â rhoi bwyd, dillad neu loches digonol, peidio â diogelu plentyn rhag niwed corfforol neu berygl, neu beidio â sicrhau y caiff ofal neu driniaeth meddygol priodol. Gall hefyd gynnwys esgeulustod neu beidio ag ymateb i anghenion emosiynol sylfaenol plentyn.
Yn ogystal, gall esgeulustod ddigwydd yn ystod beichiogrwydd o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau.
Adnoddau Defnyddiol
Ble i gael help
Yr wyf yn blentyn neu’n berson ifanc
Os ydych chi’n poeni amdanoch chi’ch hun neu rywun arall, mae yna lawer o wahanol leoedd y gallwch gael help neu gyngor:
Gallech siarad ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo, fel athro neu hyfforddwr chwaraeon neu gallech estyn allan i’r sefydliadau canlynol:
- Cymorth brys y GIG ar gyfer iechyd meddwl: Os ydych yn pryderu am eich iechyd meddwl gallwch ffonio: 111 +2 (dim ond yng Nghymru).
- Childline neu ffoniwch 0800 1111.
- Papyrus neu ffoniwch 0800 068 41 41.
- Live Fear Free Helpline neu ffoniwch 0800 80 10 800.
- NSPCC neu ffoniwch 0808 800 500.
Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.
Rwy’n rhiant neu’n ofalwr
Fel rhiant neu ofalwr, efallai y byddwch chi’n poeni am blentyn neu berson ifanc. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb dros ddiogelu plant a phobl ifanc.
Os ydych chi’n credu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.
Os ydych yn pryderu am blentyn neu berson ifanc, gallwch roi gwybod am bryder.
Sefydliadau defnyddiol y gallech gysylltu â nhw am gymorth a chyngor:
Rwy’n weithiwr proffesiynol
Fel gweithiwr proffesiynol, os oes gennych bryderon rhesymol i amau bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o gam-drin, rhaid i chi roi gwybod amdano. Rhaid i blant a phobl ifanc fod yn ddiogelu er mwyn eu hatal a’u hamddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod.
Ar gyfer argyfyngau pan fydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.
Bro Morgannwg
Os oes gennych bryderon am blentyn sy’n byw ym Mro Morgannwg cyfeiriwch eich pryderon at Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc Bro Morgannwg.
Cysylltwch â’r Tîm Cymorth i Derbyn a Theuluoedd: 01446 725 202
Tîm Dyletswydd Brys y Tu Allan i Oriau Swyddfa: 029 2078 8570
Caerdydd
If you have concerns about a child living in Cardiff please refer your concerns to the Multi-Agency Safeguarding Hub (MASH).
Os oes gennych bryderon am blentyn sy’n byw yng Nghaerdydd cyfeiriwch eich pryderon at yr Hwb Diogelu Amlasiantaeth (HWA).
Cysylltwch â’r Pwynt Mynediad i Blant: 029 2053 6490
Tîm Dyletswydd Brys y Tu Allan i Oriau Swyddfa: 029 2078 8570
Yr wyf yn aelod o’r cyhoedd
Os ydych chi’n poeni am blentyn neu berson ifanc, gallwch siarad â’r canlynol i gael cyngor:
Bro Morgannwg
Os oes gennych bryderon am blentyn sy’n byw ym Mro Morgannwg cyfeiriwch eich pryderon at Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc Bro Morgannwg.
Cysylltwch â’r Tîm Cymorth i Derbyn a Theuluoedd: 01446 725 202
Tîm Dyletswydd Brys y Tu Allan i Oriau Swyddfa: 029 2078 8570
Caerdydd
If you have concerns about a child living in Cardiff please refer your concerns to the Multi-Agency Safeguarding Hub (MASH).
Os oes gennych bryderon am blentyn sy’n byw yng Nghaerdydd cyfeiriwch eich pryderon at yr Hwb Diogelu Amlasiantaeth (HWA).
Cysylltwch â’r Pwynt Mynediad i Blant: 029 2053 6490
Tîm Dyletswydd Brys y Tu Allan i Oriau Swyddfa: 029 2078 8570










