Cam-drin domestig
Mae cam-drin domestig yn ddigwyddiad neu’n batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad rheoli, gorfodol, bygythiol, diraddiol neu dreisgar, gan gynnwys trais rhywiol. Yn y rhan fwyaf o achosion caiff ei gyflawni gan bartner neu gyn-bartner ond gall aelod/au o’r teulu neu ofalwyr ei achosi hefyd.
O dan Ddeddf Cam-drin Domestig 2021, mae Plant yn oroeswyr/dioddefwyr cam-drin domestig yn eu hawl eu hunain, os ydynt yn gweld, clywed neu’n destun y camdriniaeth.



