Cael cymorth i blant

Os ydych yn pryderu am blentyn yng Nghaerdydd, gallwch gyflwyno eich pryderon drwy Ffurflen Atgyfeirio Ar-lein Canolfan Cyngor, Cymorth a Diogelu Teulu (FASPH):

Mae’r holl adroddiadau yn cael eu cymryd o ddifrif ac yn gweithredu arnynt yn sensitif. Cymerir camau i ddiogelu plant sydd mewn perygl uniongyrchol.

Ar gyfer argyfyngau pan fydd plentyn mewn perygl uniongyrchol ffoniwch yr Heddlu ar 999.

Ble i gael help

Yr wyf yn blentyn neu’n berson ifanc

Os ydych chi’n poeni amdanoch chi’ch hun neu rywun arall, mae yna lawer o wahanol leoedd y gallwch gael help neu gyngor:

Gallech siarad ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo, fel athro neu hyfforddwr chwaraeon neu gallech estyn allan i’r sefydliadau canlynol:

  • Cymorth brys y GIG ar gyfer iechyd meddwl: Os ydych yn pryderu am eich iechyd meddwl gallwch ffonio: 111 +2 (dim ond yng Nghymru).
  • Childline neu ffoniwch 0800 1111.
  • Papyrus neu ffoniwch 0800 068 41 41.
  • Live Fear Free Helpline neu ffoniwch 0800 80 10 800.
  • NSPCC  neu ffoniwch 0808 800 500.

Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.

Rwy’n rhiant neu’n ofalwr

Fel rhiant neu ofalwr, efallai y byddwch chi’n poeni am blentyn neu berson ifanc. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb dros ddiogelu plant a phobl ifanc.

Os ydych chi’n credu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.

Os ydych yn pryderu am blentyn neu berson ifanc, gallwch roi gwybod am bryder.

Sefydliadau defnyddiol y gallech gysylltu â nhw am gymorth a chyngor:

Rwy’n weithiwr proffesiynol

Fel gweithiwr proffesiynol, os oes gennych bryderon rhesymol i amau bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o gam-drin, rhaid i chi roi gwybod amdano. Rhaid i blant a phobl ifanc fod yn ddiogelu er mwyn eu hatal a’u hamddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod.

Ar gyfer argyfyngau pan fydd plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.

Bro Morgannwg

Os oes gennych bryderon am blentyn sy’n byw ym Mro Morgannwg cyfeiriwch eich pryderon at Cwmpawd Teulu y Fro (Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc Bro Morgannwg).

Cysylltwch â’r Cwmpawd Teulu Y Fro: 0808 281 6727 dewiswch opsiwn 3 i siarad â’r Tîm Derbyn

Tîm Dyletswydd Brys y Tu Allan i Oriau Swyddfa: 029 2078 8570

Caerdydd

Os oes gennych bryderon am blentyn sy’n byw yng Nghaerdydd, cyfeiriwch eich pryderon at Ganolfan Cyngor, Cymorth a Diogelu Teulu (FASPH) ar 03000 133 133.

Y Tîm Dyletswydd Brys y Tu Allan i Oriau Swyddfa: 029 2078 8570

Yr wyf yn aelod o’r cyhoedd

Os ydych chi’n poeni am blentyn neu berson ifanc, gallwch siarad â’r canlynol i gael cyngor:

Bro Morgannwg

Os oes gennych bryderon am blentyn sy’n byw ym Mro Morgannwg cyfeiriwch eich pryderon at Cwmpawd Teulu y Fro (Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc Bro Morgannwg).

Cysylltwch â’r Cwmpawd Teulu Y Fro: 0808 281 6727 dewiswch opsiwn 3 i siarad â’r Tîm Derbyn

Tîm Dyletswydd Brys y Tu Allan i Oriau Swyddfa: 029 2078 8570

Caerdydd

Os oes gennych bryderon am blentyn sy’n byw yng Nghaerdydd, cyfeiriwch eich pryderon at Ganolfan Cyngor, Cymorth a Diogelu Teulu (FASPH) ar 03000 133 133.

Y Tîm Dyletswydd Brys y Tu Allan i Oriau Swyddfa: 029 2078 8570

Ar gyfer argyfyngau pan fo plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.