Cam-drin corfforol
Gall cam-drin corfforol olygu taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi neu sgaldio, boddi, mygu, neu achosi niwed corfforol i blentyn fel arall.
Gellir achosi niwed corfforol hefyd pan fydd rhiant neu roddwr gofal yn ffugio neu’n cymell salwch mewn plentyn y maent yn gofalu amdano.
Adnoddau
- Mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru – Taflen Wybodaeth Rhieni i Ddiwedd Cosbi Corfforol (Llywodraeth Cymru)
- Rhianta: Rhowch Amser iddo – Canllawiau rhianta ar gyfer pob cam o blentyndod a llencyndod
