Ynglŷn â’r bwrdd

Mae’r Bwrdd yn cynnwys arweinwyr strategol o wahanol asiantaethau. Rydym yn gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer diogelu amlasiantaeth. Yr asiantaethau a gynrychiolir ar y bwrdd yw:

  • Barnado’s
  • Awdurdodau Lleol Caerdydd a Bro Morgannwg
  • Byrddau Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro / Prifysgol Bae Abertawe
  • Fforwm Gofal Cymru
  • Gwasanaeth Carchar Ei Fawrhydi Caerdydd
  • Y Swyddfa Gartref
  • Llamau
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • NSPCC
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • Heddlu De Cymru
  • Felindre, Ymddiriedolaeth y GIG
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae’r Bwrdd yn cyflawni’r swyddogaethau hyn o ddydd i ddydd, drwy:

  • gyfeiriad polisi
  • monitro effeithiolrwydd diogelu o fewn asiantaethau
  • comisiynu adolygiadau ymarfer
  • rhannu dysgu gydag ymarferwyr i sicrhau bod diogelu yn flaenoriaeth

Mae’r bwrdd yn llywodraethu grwpiau llai sy’n cyflawni’r swyddogaethau craidd.

Mae’r swyddogaethau craidd yn cynnwys:

  • Datblygu, gweithredu a monitro gweithdrefnau sy’n helpu i amddiffyn pobl ac atal cam-drin
  • Codi ymwybyddiaeth o waith y bwrdd
  • Sicrhau bod y mesurau a gymerir gan asiantaethau yn effeithiol
  • Gwneud a monitro argymhellion
  • Cynnal adolygiadau, asesiadau ac archwiliadau ymarfer i rannu dysgu a gwella ymarfer
  • Adolygu perfformiad y bwrdd a’i bartneriaid
  • Hwyluso ymchwil ar ddiogelu ac atal cam-drin ac esgeulustod

Nodi ac adolygu anghenion hyfforddi ymarferwyr

Strwythur y Bwrdd

Mae’r Bwrdd yn cynnwys arweinwyr strategol o:

Diagram yn dangos strwythur Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro.

Dogfennau defnyddiol