Adolygiadau diogelu
Adolygiad Diogelu Unedig Unigol
Mae’r Adolygiad Diogelu Unedig Unigol (SUSR) yn broses adolygu unedig sy’n cynnwys pob adolygiad yng Nghymru. Mae’r SUSR yn dileu’r angen i deuluoedd gymryd rhan mewn nifer o adolygiadau. Bydd hyn yn lleihau’r trawma a chaniatáu i ddysgu gael ei adnabod ac ymateb iddi yn gynharach.
Mae’r meini prawf ar gyfer cynnal Adolygiad Diogelu Unedig Unigol yn cael eu nodi yn y Canllawiau Statudol ar gyfer Adolygiad Diogelu Unedig Unigol, 2024, ac mae angen i’r adolygiad gwrdd â un o’r canlynol:
- Adolygiad Ymarfer Oedolion
- Adolygiad Ymarfer Plant
- Adolygiad Llofruddiaeth Ddomestig
- Adolygiad Llofruddiaeth Iechyd Meddwl
- Adolygiad Llofruddiaeth Arfau Sarhaus
Mae’r SUSR yn dod â sefydliadau a phobl sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad ynghyd i:
- adeiladu dealltwriaeth well o beth ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad a pham
- gwella dealltwriaeth o effaith gweithredoedd y sefydliadau
- ymchwilio i benderfynu a allai gweithredoedd gwahanol wedi arwain at ganlyniadau gwahanol i’r plentyn neu’r oedolyn mewn perygl
- adnabod unrhyw gyfleoedd dysgu ar gyfer y dyfodol
- darparu cynllun gweithredu clir ar sut i wella darparu gwasanaethau
Darperir trosolwg a chyflwyniad i broses SUSR yma
Adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion
Mae’r meini prawf ar gyfer adolygiadau ymarfer plant ac oedolion wedi’u nodi yn Rheoliad 4 Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) Cymru 2015, sy’n datgan bod yn rhaid cynnal adolygiadau ymarfer plant/oedolion pan fo plentyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu os yw’n hysbys neu yr amheuir bod plentyn/oedolyn wedi:
- Marw; neu
- Gael anaf a allai beryglu ei fywyd; neu
- Wedi cael nam difrifol a pharhaol o ran iechyd neu ddatblygiad
Mae dau fath o adolygiad – dryno ac estynedig. Bydd y math o adolygiad a gynhelir yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos.
Os bodlonir y meini prawf ar gyfer Adolygiad Ymarfer, yna gwneir argymhelliad i gynnal adolygiad o Gadeiryddion Bwrdd Diogelu Caerdydd a’r Fro.
Yn y pen draw, mae’r penderfyniad ynghylch a yw’r achos yn bodloni’r meini prawf uchod gyda Chadeirydd(ion) y Bwrdd, fel y cynghorwyd gan y Grŵp Adolygu Achosion.
Mae’r canllawiau statudol canlynol yn nodi sut y cynhelir adolygiadau ymarfer:
Cymorth i ymarferwyr
Am fwy o wybodaeth am Adolygiadau Ymarfer, a chymorth yn eu cynnal, darllenwch ein Pecyn Cymorth Adolygu Ymarfer.
I wneud atgyfeiriad, defnyddiwch y Ffurflen Atgyfeirio SUSR.
Adolygiadau wedi eu cyhoeddi
Bydd manylion adroddiadau Adolygiad Ymarfer Plant a gyhoeddwyd gan Fwrdd Diogelu Plant Caerdydd a’r Fro ar gael i’w lawrlwytho isod:
Cedwir adroddiadau wedi eu cyhoeddi ar y wefan am o leiaf 12 wythnos. Gallwch ofyn am gopïau o adroddiadau a gyhoeddwyd yn flaenorol trwy gysylltu â’r Uned Fusnes.
Ffilmiau SUSR
Ymwybyddiaeth i Bawb
Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl: Ymwybyddiaeth i bawb (7mins)
Digwyddiadau Dysgu
Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl: Digwyddiadau Dysgu (6mins)
Arweinwyr Uwch
Adolygiad Diogelu Unedig Sengl: Cyflwyniad ar gyfer Uwch-arweinwyr (6mins)
